Cymru - Ceri Matthews
Mae Ceri a Diarmuid yn chwarae gyda'i gilydd ers 2003. Ar wahanol adegau bu Allt-yr-Odyn Cwrt Newydd, Besi's Cwm Gwaun, a'r Angel Llanfihangel-ar-Arth yn dai cwrdd iddynt. Buont yn cydweithio ar y ffilm Llifo sy'n dilyn cwrs Afon Teifi o'r mynydd i'r aber. Bu cydweithio rhyngddynt hefyd ar yr albwm 'Blodeugerdd' (Smithsonian Folkways, 2009). Yn 2005 recordion nhw chwe thrac gyda'i gilydd. Maen nhw yn chwarae tribannau Morgannwg, caneuon Evans Rowlands Tregaron, galliards, jigs, polcas ac alawon cywydd deauair hirion.
Gwrandewch ar Cerrig yr Afon, Croesawiad Gwraig y Tŷ a Larri Gogan isod.
Cerrig yr Afon
Cymru - Sild
Recordiodd Diarmuid bump trac gyda Sild yn 2005, a chwarae gyda nhw yng Ngŵyl Werin Penrhyn Gŵyr y flwyddyn honno hefyd.
Gwrandewch arnynt yn chwarae isod.
Sille's Ffidl Ffadl