Y Gwyddel (Gomer 2011)

"Cof plentyn oedd gen i am y daith dros y don. Gyrru ar draws Iwerddon – cyn oes y draffordd - o Galway i Ennis, Limerick, Cashel, Clonmel, Carrick-on-Suir, New Ross, Waterford a Rosslare. Croesi min nos ar hen long Sealink – cyn oes twristiaeth – a chyrraedd Abergwaun yn llawn cwsg cyn bwrw ymlaen i Aberteifi lle byddai mamgu yn pendwmpian o flaen y tân trydan. Clywed yr oglau cŵyr yr un peth a phob blwyddyn, a chlywed y tegell yn sgrialu mâs o law, a’r Beibl Mawr fel craig yr oesoedd ar y ddresel yn y stafell ffrynt lle na feiddiai’r un llygoden gableddus darfu ar dic toc cloc mawr tragwyddoldeb...."
" Mae llygad, clust, meddwl ac ysgrifbin llenor ar waith." BBC Cymru
www.gomer.co.uk